Wedi'i ddiweddaru 8th Jan 2021

Localgiving Cymru

Mae Localgiving wedi cyhoeddi lansiad eu rhaglen newydd i Gymru. Drwy’r rhaglen tair blynedd, Crowdfund Wales, byddant yn darparu blwyddyn o aelodaeth â chymhorthdal llawn, Cymorth Rhodd a hyfforddiant i 150 o sefydliadau ar sut i godi arian ar-lein. Byddant yn cefnogi pob aelod i gynnal ymgyrch ar-lein i godi £1,750 tuag at angen o’u dewis, a fydd wedyn yn datgloi grant o £250 o arian cyfatebol. Fel rhan o’u haelodaeth, gall sefydliadau hefyd gymryd rhan yn ymgyrchoedd Localgiving ledled y DU. 

I fanteisio ar y cynnig hwn, mae angen i sefydliadau ddefnyddio cod promo WALES150 i hawlio’r cymhorthdal llawn ar gyfer eu blwyddyn gyntaf: join.localgiving.org/cymru

Bydd pob aelod posibl yn derbyn cais byr ar-lein i’w gwblhau, i gadarnhau eu hymrwymiad i’r cyfle hwn. Yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu sefydlu’n llawn ar sut i ddechrau arni.