Wedi'i ddiweddaru 3rd Nov 2020

Cwrdd â’r Cyllidwr: Garfield Weston Foundation

Archebwch eich lle ar y digwyddiad Cwrdd â’r Cyllidwr am ddim hwn.

Mae’r Garfield Weston Foundation yn sefydliad teuluol sy’n creu grantiau elusennol. Mae’n cefnogi ystod eang o achosion ledled y DU, gan ddyrannu dros £88 miliwn bob blwyddyn. Fe’i sefydlwyd yn 1958 gan y teulu Weston ac mae’n un o’r sefydliadau elusennol mwyaf yn y DU sydd wedi rhoi cyfanswm o dros £1 biliwn o arian grant.

Mae’r Garfield Weston Foundation yn parhau ar agor ac yn gwbl weithredol wrth greu grantiau yn ystod y cyfnod hwn – ar gyfer ei Raglenni Grantiau Mawr a Grantiau Cyffredin fel ei gilydd. Os ydych chi’n elusen yn y DU gallwch ymgeisio am gyllid ar unrhyw adeg a byddwch yn derbyn penderfyniad ymhen 4 mis. Maent yn creu grantiau anghyfyngedig ar gyfer costau craidd a chostau prosiect ac yn cefnogi prosiectau ar draws: Y Celfyddydau, Addysg, Ieuenctid, Iechyd, Amgueddfeydd a Threftadaeth, Cymunedau, Yr Amgylchedd, Ffydd a Llesiant, yn enwedig i’r rheini sydd mewn angen mewn ardaloedd o anfantais economaidd.

Mae CGGC yn falch o groesawu Flora (Pennaeth Grantiau) a Harriet (Rheolwr Grantiau) o dîm y Garfield Weston Foundation er mwyn cyflwyno’u prif gynghorion ar gyfer llunio cais ac yna i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r mynychwyr.

Digwyddiad rhad ac am ddim. Archebwch eich lle yn https://www.eventbrite.co.uk/e/cwrdd-ar-cyllidwr-meet-the-funder-garfield-weston-foundation-tickets-126776839941