Cwrdd â'r Cyllidwr Digwyddiad Ar-lein gyda Easyfundraising
Oeddech chi’n gwybod eich bod chi’n gallu codi arian at achosion da, am ddim, ond drwy siopa ar-lein?
Dewch i’r sesiwn anffurfiol hon i ddarganfod sut y gall eich grŵp gwirfoddol, CBC, menter gymdeithasol, eglwys, ysgol, clwb chwaraeon neu elusen ddefnyddio’r platfform codi arian easyfund i gael budd o gyllid anghyfyngedig.
Bydd Luisa o easyfundraising yn dangos i chi sut y gall eich gwirfoddolwyr, staff a chefnogwyr ddefnyddio’r platfform easyfundraising i godi arian am ddim i’ch mudiad pan fyddant yn siopa gyda brandiau blaenllaw.
Beth i’w ddisgwyl:
- Arddangosiad byw o sut mae’r wefan yn gweithio
- Cyfarwyddiadau ar sut i sefydlu’ch sefydliad
- Awgrymiadau ar sut i godi cymaint â phosibl
- Sesiwn holi ac ateb gyda Luisa
Mae’n hollol rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, a dim tal am yr hyfforddiant!
Pryd: Dydd Mawrth 27 Medi 2022 am 11am
Ble: Sesiwn Ar-lein (Yn Saesneg)