Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i safle funding.cymru (Cyllido Cymru) Cefnogi Trydydd Sector Cymru a reolir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Defnyddio’r wefan hon
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Rydym eisiau i gymaint â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, dylai hyn olygu y gallwch:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo i hyd at 300% heb i’r testun syrthio oddi ar y sgrin
- llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
- llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall, ond mae swm mawr o’r cynnwys (cronfeydd) yn cael eu cynhyrchu gan y defnyddiwr.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid oes gan rai lluniau destun amgen da
- nid yw testun dolenni yn disgrifio diben y ddolen mewn rhai mannau
- nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson
- nid oes gan rai elfennau ddigon o gyferbyniad lliw
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes arnoch angen yr wybodaeth ar y wefan hon ar fformat gwahanol, cysylltwch ag
- e-bost: fundingwales@wcva.cymru
- ffôn: 0300 1110124
Er mwyn ein helpu ni i ddiwallu eich anghenion yn well, dywedwch wrthym ar ba fformat arall yr hoffech chi gael yr wybodaeth, a rhowch wybod i ni os ydych yn defnyddio unrhyw dechnoleg gynorthwyol.
Fe wnawn ni ystyried eich cais a dod yn ôl atoch o fewn 15 diwrnod gwaith.
Adrodd problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
- Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os nad ydych yn credu ein bod yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: fundingwales@wcva.cymru
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn ymrwymedig i wneud y wefan hon yn hygyrch.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA (Saesneg yn unig), oherwydd y pwyntiau diffyg cydymffurfiaeth a nodir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae’r problemau canlynol wedi’u datrys lle’n bosibl, ond mae’n bosibl bod nifer bychan o dudalennau wedi’u heffeithio o hyd.
Meini prawf llwyddiant a fethwyd: WCAG 2..1 Maen brawf llwyddo (Wrth ddefnyddio lluniau, nodwch destun amgen byr (Alt text)). Problem: Os nad oes testun amgen, ni all technolegau cynorthwyol adnabod y llun na chyfleu ei ddiben i’r defnyddiwr.
Meini prawf llwyddiant a fethwyd: WCAG 2.1 2.4.4 Maen brawf llwyddo (Diben dolen (mewn cyd-destun).
Problem: Nid yw testun dolen ynghyd â dolen a bennir gan raglen yn nodi diben y ddolen.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 12 Medi 2022.