Wedi'i ddiweddaru 25th May 2021

Sut mae’r pandemig wedi effeithio ar gyllid i’r sector? Rhowch wybod i ni!

Rydyn ni’n edrych ar y dirwedd gyllido gyfredol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Mae Alison Pritchard, Rheolwr Cyllid Cynaliadwy CGGC, yn egluro pam mae’r gwaith hwn mor bwysig a sut gallwch chi ein helpu ni i greu darlun llawn.

Cyllid ac incwm yw un o’r prif broblemau i fudiadau gwirfoddol o hyd, ac mae wedi bod yn fwy o broblem ers i’r pandemig daro yn 2020 a llawer o ffynonellau incwm wedi mynd yn hesb. Mae CGGC, Richard Newton Consulting a’r Sefydliad Codi Arian Siartredig eisiau gwybod sut mae incwm y sector gwirfoddol yng Nghymru erbyn hyn.

AMRYWIO FFRYDIAU INCWM

Trwy ein piler o waith, Cyllid Cynaliadwy, mae CGGC a’i bartneriaid yn Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) (y 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol) yn rhoi cymorth i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru gyda chyllid a chodi arian.

Ers blynyddoedd bellach, mae’r gwaith hwn wedi canolbwyntio’n benodol ar annog mudiadau gwirfoddol i amrywio eu ffrydiau incwm er mwyn gwella eu cynaliadwyedd a’u gwydnwch. Po fwyaf amrywiol yw ein ffynonellau incwm, lleia’n byd yw’r effaith negyddol arnom o golli un. Er enghraifft, pan fydd contract yn dod i ben a ddim yn cael ei adnewyddu.

CAEL MWY O DDATA AR INCWM Y SECTOR

Er mwyn parhau i gefnogi’r sector yn effeithiol, mae angen darlun clir ar TSSW a rhanddeiliaid allweddol eraill y sector, fel Llywodraeth Cymru, o ba mor amrywiol yw incwm y sector.

Mae Porth Data’r Trydydd Sector gan CGGC yn adnodd gwerthfawr yma, ond dim ond rhan o’r darlun y mae hwn yn ei roi. Mae’r data sydd ar gael o elusennau cofrestredig yn unig ac o’r flwyddyn ariannol 2017/18. Gwyddom fod oddeutu 6,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru.

Pan ystyriwch chi fod y sector gwirfoddol yng Nghymru yn cynnwys mwy na 48,000 o fudiadau i gyd, gallwch weld bod bwlch eithaf mawr yn y darlun o incwm gwirfoddol yng Nghymru.

SUT GALLWCH CHI HELPU

Er mwyn llenwi’r bylchau hynny a chael darlun mwy cywir o sut mae’r pandemig wedi effeithio ar ein gallu i gynhyrchu incwm, mae CGGC wedi partneru â Richard Newton Consulting a’r Sefydliad Codi Arian Siartredig i gynnal arolwg o’r incwm yng Nghymru.

Trwy gwblhau’r arolwg hwn, byddwch chi’n helpu CGGC, cyrff cymorth eraill a rhanddeiliaid fel Llywodraeth Cymru i:

  • Ddatblygu a chynhyrchu canllawiau, adnoddau a hyfforddiant perthnasol ar weithgareddau cynhyrchu incwm a fydd yn eich helpu chi i amrywio eich incwm
  • Eirioli’n effeithiol ar ran holl fudiadau gwirfoddol Cymru ar faterion sy’n effeithio ar gynaliadwyedd, fel comisiynu a defnyddio cyfrifon segur
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau i chi am weithgareddau cynhyrchu incwm nad ydynt yn cael eu defnyddio digon. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a strategol ynghylch eich dulliau cynhyrchu incwm eich hun

 

BETH I’W WNEUD

Bydd hi’n haws cwblhau’r arolwg os bydd gennych chi eich gwybodaeth ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2020 wrth law. Rydyn ni’n sylweddoli y gallai’r cyfrifon hyn fod wedi’u heffeithio gan bandemig y Coronafeirws, ond gan ein bod yn bwriadu ailadrodd yr arolwg hwn dros amser, defnyddiwch ffigurau gwirioneddol yn hytrach na gwneud unrhyw addasiadau i amrywiadau incwm o ganlyniad i’r pandemig.

Po fwyaf o fudiadau fydd yn cwblhau’r arolwg hwn, gorau’n byd fydd yr wybodaeth ganlyniadol y gall pob un ohonom ei defnyddio.

Cwblhewch yr arolwg yma: http://ow.ly/ZzIH50ES5eJ

Bydd Richard Newton Consulting hefyd yn cynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws fel rhan o’r darn gwaith hwn er mwyn cael mewnwelediadau manylach i ategu’r data a fydd yn cael ei gasglu yn yr arolwg. Cadwch lygad am grŵp ffocws agored a fydd yn cael ei gynnal fel rhan o gofod3.

Os hoffech gysylltu â ni ynghylch y prosiect hwn, anfonwch e-bost atom yn sharon@richard-newton.co.uk.