Wedi'i ddiweddaru 5th Aug 2020

Sefydliad Lloyds Bank yn lansio rhaglen grantiau COVID-19 gwerth £7.4 miliwn ar gyfer elusennau bach a lleol

Gall yr elusennau bach a lleol yng Nghymru sy’n helpu pobl i oresgyn problemau cymdeithasol cymhleth wneud cais ar gyfer dwy flynedd o grantiau anghyfyngedig gwerth £50,000 ynghyd â chymorth datblygu penodol ar gyfer y mudiad.

Er mwyn diwallu anghenion yr elusennau bach a lleol a’r bobl maent yn eu cefnogi, bydd Sefydliad Lloyds Bank Cymru a Lloegr yn agor cyllid COVID-19 newydd i helpu elusennau i ddod dros yr argyfwng presennol ar 3 Awst 2020. Yr elusennau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai ledled Cymru sydd ag incwm rhwng £25,000 ac £1 miliwn ac sy’n mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol heriol fel iechyd meddwl, digartrefedd a cham-drin domestig[i], ynghyd â’r rheini sydd â hanes o helpu pobl i wneud newid cadarnhaol yn eu cymunedau lleol.

Mae meini prawf newydd y Sefydliad yn cydnabod bod elusennau yng Nghymru’n ymateb i broblemau cymdeithasol penodol fel digartrefedd neu gam-drin domestig yn aml ac yn helpu cymunedau ac unigolion gyda phroblemau eraill, yn hytrach na chanolbwyntio ar un broblem.

Bydd Cyllideb Adfer COVID yn cynnig grant anghyfyngedig o £50,000 am ddwy flynedd i 140 o elusennau ledled Cymru a Lloegr a bydd rhwng 12 a 14 o’r elusennau yng Nghymru. Bydd yr elusennau hefyd yn cael cymorth gan Bartner Datblygu i adnabod eu hanghenion a gweithredu arnynt.

Bydd y Partner Datblygu’n gweithio ochr yn ochr â deiliaid y grantiau am flwyddyn er mwyn eu helpu i adnabod a mynd i’r afael ag anghenion eu mudiad yn ystod y cyfnod heriol hwn sy’n newid yn gyflym.

Dywedodd Paul Streets OBE, Prif Weithredwr Sefydliad Lloyds Bank: “Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn i elusennau, ond mae’r elusennau bach a lleol yn parhau i wneud ymdrech anferthol i helpu’r bobl sydd eu hangen fwyaf. Maent wedi bod yn datblygu ffyrdd arloesol o gyrraedd pobl, addasu eu modelau darparu gwasanaeth, ffurfio partneriaethau cryf gydag asiantaethau lleol i gydlynu cymorth a llawer iawn mwy. Felly, roeddem ni eisiau sicrhau ein bod yn gwneud ein grantiau’n fwy hygyrch i elusennau yng Nghymru.”

Ychwanegodd Rachel Marshal, Rheolwr Cymru Sefydliad Lloyds Bank: “Mae’r meini prawf ysgafn ar gyfer elusennau Cymru yn golygu y byddwn yn gallu dyfarnu cyllid i amrywiaeth o elusennau sy’n darparu ystod o gymorth i bobl yn eu cymunedau ledled Cymru.”

Bydd ceisiadau ar gyfer Cronfa Adfer COVID yn agor am 10am, 3 Awst 2020 ac yn cau am 5pm, 11 Medi 2020. Dyfernir grantiau i 140 o elusennau bach a lleol yng Nghymru a Lloegr cyn diwedd y flwyddyn.

Ewch i https://www.lloydsbankfoundation.org.uk/  i gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Adfer COVID. Cynhelir gweminar Holi ac Ateb gydag aelodau o’r tîm grantiau rhwng 2pm a 3:30pm, 11 Awst. Gall ymgeiswyr gofrestru ar gyfer y gweminar yma.

[i] Mae’r Sefydliad yn helpu elusennau i fynd i’r afael â’r problemau cymdeithasol heriol canlynol:

  • Dibyniaeth
  • Ceiswyr lloches a ffoaduriaid
  • Pobl ifanc sy’n gadael gofal
  • Cam-drin domestig
  • Pobl ddigartref neu bobl mewn sefyllfa fregus o ran tai
  • Anableddau dysgu
  • Iechyd meddwl
  • Troseddu, carchar a gwasanaeth cymunedol
  • Tegwch hiliol
  • Cam-drin rhywiol a chamfanteisio
  • Masnachu pobl neu gaethwasiaeth fodern
  • Rhieni ifanc