Wedi'i ddiweddaru 4th Dec 2020

Plant Mewn Angen - Sesiwn friffio ariannu

Agorodd CIN ei raglenni Prif Grantiau a Grantiau Bach ym mis Tachwedd ar gyfer ymgeiswyr sy’n ceisio cyllid Plant mewn Angen.  Byddant yn cynnal sesiwn briffio cyllid ddydd Iau 10 Rhagfyr am 2-3pm i ddarpar ymgeiswyr gael gwybod mwy am eu cyllid.  Maent yn disgwyl i’r rownd grant hon dderbyn nifer fawr o geisiadau felly bydd y sesiwn yn allweddol ar gyfer darganfod ffocws y ddwy raglen, a sut mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar nodau strategol eu cyllid.  Gallant hefyd roi rhywfaint o fewnwelediad i’r themâu a’r meysydd allweddol y byddent yn eu croesawu’n arbennig gan brosiectau a sefydliadau yng Nghymru.  I gael gwybod mwy ac i archebu eich lle ar y sesiwn, cysylltwch â cin.wales@bbc.co.uk.

Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar ei wefan https://www.bbcchildreninneed.co.uk/grantiau/