Wedi'i ddiweddaru 7th Mar 2019

Pembrokeshire Remakery yn manteisio ar gymorth cyllido

Cwmni Buddiannau Cymunedol yw Pembrokeshire Remakery yn Sir Benfro. Nod Remakery yw lleihau faint o nwyddau’r cartref sy’n cael eu gwastraffu drwy eu gwneud yn addas i gael eu hailddefnyddio a’u gwerthu’n ôl i’r gymuned.

Mae’r grŵp wedi atal ychydig dros 2 dunnell o nwyddau’r cartref rhag mynd i’r ffrwd wastraff. Ar ôl eu trwsio, caiff eitemau eu gwerthu’n ôl i’r gymuned i’w hailddefnyddio, am bris fforddiadwy. Mae hyn yn gyfwerth ag atal bron i 6 thunnell o Garbon Deuocsid rhag mynd i’r atmosffer. Mae mudiadau ailddefnyddio yn rhan hanfodol o nod Llywodraeth Cymru i fod yn ddiwastraff erbyn 2050.

Cefnogwyd y grŵp gan ei Gyngor Gwirfoddol Sirol lleol, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), i gofrestru’n Gwmni Buddiannau Cymunedol ac yna i ddysgu am opsiynau cyllido. Menter gymdeithasol yw Pembrokeshire Remakery sydd â chyfle i wneud incwm drwy ddarparu gweithdai atgyweirio a gwerthu nwyddau sydd wedi’u hatgyweirio neu eu hailwampio, ond roedd angen cyllid sbarduno arni yn gynnar yn ei datblygiad.

Siaradodd Swyddog Datblygu PAVS â’r grŵp ynglŷn â chymhwysedd am gyllid a’r angen i dargedu cyfleoedd cyllido sydd â blaenoriaethau sy’n cyd-fynd ag amcanion y grŵp. Doedd y grŵp ddim wedi ymgeisio am arian grant o’r blaen. Ymgeisiodd y grŵp i gronfeydd lleol y Grant Bach Gwyrdd a Chronfa Gymunedol South Hook LNG ar gyfer prosiectau cymunedol lleol i ddechrau datblygu gweithgarwch y grŵp. Roedd y ddau gais yn llwyddiannus ac o ganlyniad mae’r grŵp wedi cynnal cyfres o weithdai atgyweirio beiciau yn Sir Benfro.

Llwyddodd y grŵp wedyn i sicrhau arian o’r gronfa Leader ac mae bellach wedi agor gweithdy yn Hwlffordd. Mae’r grŵp hefyd yn cynnal caffis atgyweirio poblogaidd lle mae pobl yn dod ag eitemau sydd wedi torri ac yn dysgu sut i’w trwsio. Llwyddodd y grŵp mewn cais arall am gyllid yn ddiweddar drwy Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Mae’r gymuned yn cefnogi prosiect Remakery drwy wirfoddoli a rhoi eitemau iddo. Mae’n enghraifft ardderchog o fudiad sydd â chymysgedd da o gyllid: peth arian grant ochr yn ochr â sylfaen fasnachu a model busnes cadarn.

Dyma gyngor y grŵp wrth ymgeisio am gyllid:

Cofnodwch eich llwyddiannau ni waeth pa mor fach gan eu bod i gyd yn cyfuno i greu darlun o’ch prosiect/mudiad wrth chwilio am arian grant ychwanegol.