Wedi'i ddiweddaru 3rd Nov 2020

Lansio Hwb Gwybodaeth newydd ar gyfer y sector gwirfoddol

Mae’r Hwb Gwybodaeth yn galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i gael mynediad hawdd at amrediad o wybodaeth, rhwydweithio a dysgu ar-lein

Mae partneriaid Cefnogi Trydydd Sector Cymru wedi lansio cronfa newydd o wybodaeth ac adnoddau dysgu ar-lein ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae’r Hwb Gwybodaeth yn offeryn hawdd ei ddefnyddio i helpu mudiadau gwirfoddol i ddatblygu sgiliau, dysgu a chael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel am feysydd allweddol fel rhedeg eich mudiad, gwirfoddoli, cyllid a dylanwadu.

Yn ogystal â detholiad o daflenni gwybodaeth a chyrsiau ar-lein, mae’r Hwb Gwybodaeth hefyd yn rhoi’r cyfle i chi rwydweithio â chymheiriaid a chael trafodaethau ar bynciau sydd o bwys i chi.

I fanteisio ar yr Hwb Gwybodaeth newydd, cofrestrwch yn cefnogitrydyddsector.cymru. Mae’r Hwb Gwybodaeth yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio gan unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, neu’r rheini sydd eisiau bod yn rhan o’r sector am y tro cyntaf.

YNGLŶN Â CEFNOGI TRYDYDD SECTOR CYMRU

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r holl drydydd sector yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW). Mae’r rhwydwaith yn cynnwys y 19 o gyrff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Mae TSSW yn gwella’r ffordd y mae’n darparu gwasanaethau’n ddigidol, ac yn ymrwymedig i sicrhau bod ei blatfformau digidol yn gynhwysol ac yn ddwyieithog.

Mae platfformau digidol eraill TSSW yn cynnwys:

Cyllido Cymru

Platfform chwilio am gyllid yw Cyllido Cymru, lle gallwch ddod o hyd i arian ar gyfer eich elusen, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol drwy ddefnyddio ein chwilotwr ar-lein am ddim.

infoengine

infoengine yw’r cyfeiriadur o wasanaethau trydydd sector yng Nghymru. Mae infoengine yn amlygu amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol rhagorol sy’n gallu darparu gwybodaeth a chymorth er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.

Gwirfoddoli Cymru

Platfform gwirfoddoli digidol yw Gwirfoddoli Cymru. Ar y platfform hwn, mae cannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli o bob rhan o Gymru mewn un lle, sy’n ei gwneud hi’n haws dod o hyd i wirfoddolwyr a’u recriwtio – neu i ddechrau ar eich taith wirfoddoli eich hun.