Wedi'i ddiweddaru 9th Nov 2023

Gwobrau Elusen Weston 2024

Ydych chi’n arwain elusen sy’n gweithio ym meysydd y Gymuned, yr Amgylchedd, Llesiant neu Ieuenctid?

Ydych chi wedi eich lleoli yng Ngogledd neu Ganolbarth Lloegr, neu yng Nghymru? A oes gennych o leiaf un aelod o staff sydd wedi’i gyflogi amser llawn mewn swydd arwain a gydag incwm o lai na £5 miliwn y flwyddyn?

Yna, gallech fod yn gymwys i gael pecyn cymorth, gan gynnwys grant anghyfyngedig, gwerth ychydig dros £22,000. Mae’r cymorth hwn i elusennau yn bwysicach nag erioed wrth i’r argyfwng costau byw waethygu.

Drwy Wobrau Elusen Weston, mae grantiau anghyfyngedig o £6,500 ar gael i hyd at 22 o elusennau uchelgeisiol. Mae’r cyfraniadau ariannol ar gael i sbarduno newid strategol a sbarduno twf arloesol er gwaethaf yr heriau presennol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael mynediad am ddim i’r rhaglen Pilotlight 360 – pecyn deg mis o hyfforddiant arwain sydd werth tua £16,000.

Y PECYN LLAWN

Ynghyd â grantiau, bydd enillwyr y gwobrau’n cael pecyn heb ei ail o fentora arweinwyr gan bedwar uwch weithiwr proffesiynol ar draws sefydliadau amrywiol yn y sector preifat a chyhoeddus. Mae’r “Pilotlighters” empathig hyn yn cynnig hyfforddiant arbenigol manwl ar bopeth, o arbedion effeithlonrwydd gweithredol creadigol i strategaethau busnes hirdymor cynaliadwy sy’n mynd â sefydliad i’r lefel nesaf. Mae elusennau sy’n ennill hefyd yn gallu cael mynediad i’r canlynol:

  • digwyddiadau a chyfleoedd cydweithredol drwy rwydwaith Pilotlight o elusennau’r DU
  • dwy sesiwn cymorth gydag enillwyr eraill y gwobrau i rannu arferion gorau
  • digwyddiad dathlu i bawb sydd wedi ennill gwobrau ar ddiwedd y rhaglen
  • y proffil uwch sy’n gysylltiedig â derbyn y grant hwn am ragoriaeth

Mae ceisiadau yn agor ddydd Llun 6 Tachwedd 2023, ac yn cau ar 10 Ionawr 2024.

Sylwch fod y ffurflen gais, y sesiynau gwybodaeth a’r rhaglen Wobrwyo yn Saesneg.

Darganfod mwy ar wefan Pilotlight yma.