Wedi'i ddiweddaru 10th Nov 2021

Grant Cymorth Cofrestru Etholwyr y Trydydd Sector - Cwrdd â'r ariannwr

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i leihau’r diffyg democrataidd. Eu blaenoriaeth yw bod nifer y pleidleiswyr sydd newydd ddod yn gymwys sy’n cofrestru yn cynyddu. Mae hyn yn cynnwys rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf a phleidleiswyr o grwpiau sydd wedi’u tan-gofrestru.

Mae £100,000 ar gael i’r trydydd sector i gefnogi eu gwaith i gynyddu’r nifer sy’n cofrestru i bleidleisio. Bwriedir i gymaint o bobl yn ein grwpiau targed â phosibl elwa ar y cyllid.

Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Rhagfyr. I gael gwybod mwy, ewch i: https://llyw.cymru/grant-cymorth-cofrestru-etholwyr-y-trydydd-sector

Byddwn yn cynnal sesiwn ‘Cwrdd â’r ariannwr’ ddydd Gwener 12 Tachwedd. Bydd hyn yn eich galluogi i drafod unrhyw ymholiadau sydd gennych am y grant. Os hoffech fynychu, anfonwch e-bost at: Etholiadau.Elections@gov.wales