Wedi'i ddiweddaru 12th Aug 2021

Ymatebion cyllidwyr gan ystyried feirws Covid-19

27/03/2020 

Rydyn ni mewn sefyllfa nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen yn ystod oes fodern y DU, wrth i gymunedau, mudiadau gwirfoddol a chyllidwyr geisio chwilio ffyrdd ymlaen drwy gadw pellter cymdeithasol, hunanynysu a gweithio o gartref i raddau y mae ychydig iawn o bobl yn gyfarwydd â nhw. 

Noder: Os ydych chi’n chwilio am gyllid i wneud cais ar ei gyfer, edrychwch ar ein tudalen benodol ar Goronafeirws ar Cyllido Cymru

Mae nifer fawr o gyllidwyr yn Lloegr (a llawer o’r rhain yn cyllido prosiectau ledled y DU) yn ymateb i feirws Covid-19 a’i effeithiau ar fudiadau’r sector gwirfoddol mewn modd cydlynol. Y pwynt hanfodol yw bod y cyllidwyr hyn yn ymrwymedig i gefnogi derbynyddion eu grantiau drwy fod yn hyblyg gyda grantiau a dyddiadau cau adroddiadau a gwrando ar anghenion eu derbynyddion.

Gellir gweld y datganiad llawn a rhestr o’r cyllidwyr cysylltiedig yma. Mae’n cynnwys cyllidwyr allweddol, gan gynnwys (a gellir gweld eu datganiadau unigol drwy ddilyn y dolenni yn y cromfachau):

Os ydych chi’n cael eich cyllido gan unrhyw un o’r mudiadau sydd ar y rhestr lawn, anogir chi i gysylltu â nhw yn ôl yr angen.

Isod ceir crynodeb o’r datganiadau sy’n cael eu gwneud gan gyllidwyr allweddol dros Gymru. Byddwn yn diweddaru’r grynodeb yn rheolaidd. Os nad yw eich cyllidwr wedi’i restru yma ac nad ydych wedi clywed ganddo, cysylltwch ag ef yn uniongyrchol (e-bost fydd y dull gorau siŵr o fod os cymerwn yn ganiataol fod yr holl gyllidwyr yn gweithio o bell ar hyn o bryd). Mae’r cyllidwyr wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor: 

Gronfa Treftadaeth Bensaernïol

Mae’n parhau i dderbyn ceisiadau ac asesiadau fel yr hysbysebir. Maen nhw’n annog deiliaid grantiau, derbynyddion benthyciadau ac ymgeiswyr i gysylltu â nhw’n uniongyrchol os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon.

Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae trafodaethau ar y gweill rhwng Cyngor y Celfyddydau a Llywodraeth Cymru ynghylch sut gellir gwneud cymorth ariannol ychwanegol ar gael i’r sector celfyddydau yng Nghymru. Maen nhw wedi gwneud yr addasiadau isod. Bydd swyddogion yn cysylltu â derbynyddion grant o fewn y diwrnodau nesaf.

  1. Cyllid i Bortffolio Celfyddydau Cymru – bydd mudiadau yn parhau i dderbyn cyllid, ond ni fydd amodau cyllido sy’n nodi’r mathau a’r lefelau o weithgarwch yn gymwys am o leiaf tri mis. Mae hyn yn dod i rym ar unwaith. Mae taliadau grant ymlaen llaw ar gael i’ch cynorthwyo chi gyda’r llif arian. Yn gyfnewid am ein cymorth, gofynnir i chi anrhydeddu contractau a gytunwyd gyda gweithwyr llawrydd ac artistiaid ac i feddwl am ba help y gallwch chi ei gynnig i’ch cymunedau.
  2. Dyfarniadau cyllid prosiectau – Gellir gohirio gweithgareddau prosiect i ddyddiadau diweddarach. Ond os nad yw hyn yn bosibl, bydd yr holl ddyfarniadau cyllid a ymrwymwyd eisoes i dalu’ch costau yn cael eu hanrhydeddu – waeth a yw’r gweithgaredd a gyllidir yn cael ei ganslo, ei leihau neu ei aildrefnu.
  1. Ceisiadau sydd wedi’u cyflwyno ac sy’n cael eu hasesu ar hyn o bryd – rydyn ni’n parhau i asesu, a gwneud penderfyniadau ar geisiadau sydd wedi’u derbyn eisoes, gan ymdrin â gweithgareddau a’r dyddiadau cau a amlinellwyd mewn ceisiadau mewn modd hyblyg.
  2. Ceisiadau cyllido newydd – Ni fyddant yn derbyn ceisiadau newydd am y tri mis nesaf er mwyn pennu’r ffordd orau o ddiwallu’r anghenion brys a grëwyd gan y pandemig. Bydd y sefyllfa hon yn cael ei hadolygu’n rheolaidd a chyhoeddiadau’n cael eu gwneud ynghylch unrhyw newidiadau.

Mae Cyngor y Celfyddydau yn annog mudiadau i anrhydeddu contractau sydd wedi’u gwneud gyda gweithwyr llawrydd proffesiynol. Os yw’r mudiad yn cael ei gyllido gan Gyngor y Celfyddydau, disgwylir mai hyn fydd yr achos.

Maen nhw hefyd wrthi’n trafod â Llywodraeth Cymru ynghylch cymorth i artistiaid a gweithwyr llawrydd unigol.

Sefydliad Cymunedol Cymru – wedi’i ddiweddaru

Os ydych wedi derbyn grant gan Sefydliad Cymunedol Cymru ac angen oedi neu wneud newidiadau i gyflenwad y prosiect oherwydd yr achosion o Covid-19, cysylltwch â nhw drwy anfon e-bost at grants@communityfoundationwales.org.uk  gan ychwanegu enw’ch mudiad a’r gronfa y mae’r grant a gynigiwyd i chi o’i mewn yn y llinell pwnc.

Mae gan y Sefydliad gyllid y maen nhw’n ei ryddhau i gefnogi elusennau a grwpiau cymunedol i barhau i gefnogi eu cymunedau a phobl agored i niwed. Er mwyn sicrhau bod y cyllid y byddant yn ei ddosbarthu yn mynd i’r lleoedd sydd ei angen, maen nhw’n ymgynghori â thrydydd sector Cymru er mwyn asesu eu hanghenion dybryd a pharhaus. Gallwch chi gwblhau’r arolwg byr yma.

Mae ceisiadau ar agor nawr ar gyfer Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru. Gallwch ymgeisio yma.

Cronfa Gymunedol Clocaenog

Mae’r Gronfa wedi rhyddhau cyllid ar gyfer grwpiau sy’n darparu cymorth ar y rheng flaen. Gweler Cyllido Cymru am ragor o wybodaeth a sut i ymgeisio.

Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr

Mae’r Gronfa wedi rhyddhau cyllid ar gyfer grwpiau sy’n darparu cymorth ar y rheng flaen. Gweler Cyllido Cymru am ragor o wybodaeth a sut i ymgeisio.

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – wedi’i ddiweddaru

Yn dilyn ymgynghoriad â deiliaid grant, mae’r gronfa wedi gwneud dau benderfyniad.

  • Yn gyntaf, bydd yr holl benderfyniadau cyllido y byddwn ni’n eu gwneud dros y chwe mis nesaf (hyd at £300 miliwn o gyllid y Loteri Cenedlaethol) yn cael ei neilltuo ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfwng cyfredol.
  • Byddwn yn cyflymu rhan ariannol y cyllid hwn cymaint â phosibl er mwyn cael yr arian i’r fan sydd angen iddo fod. Nid arian newydd mo hwn, ond bydd yn arian cyflymach, a gwyddom fod yn rhaid i ni weithredu’n gyflym ac yn hyderus.

Er mwyn cyrraedd y grwpiau hynny sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi eu cymunedau ar yr adeg dyngedfennol hon, byddwn yn blaenoriaethu’r taliadau cyflymach canlynol i ddeiliaid grant ac ymgeiswyr cyfredol gan ddefnyddio’r meini prawf canlynol:

  • Gweithgareddau sydd wedi’u hanelu’n benodol i gefnogi cymunedau drwy’r argyfwng hwn
  • Helpu mudiadau i oresgyn unrhyw broblemau hylifedd a achosir gan COVID-19.

Noder: Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ymateb fel un cyllidwr yn hytrach na phedair swyddfa ddatganoledig. Gan hynny, mae’r ffigur o £300 miliwn ledled y DU gyfan.

Datganiad llawn a diweddariadau

Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Mae gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ddiddordeb mewn clywed gan dderbynyddion grant ynghylch sut maen nhw’n cael eu heffeithio gan y feirws er mwyn llywio’r ffordd orau y gallan nhw gefnogi’r sector treftadaeth, ac maen nhw wedi rhannu arolwg i alluogi grwpiau i gyfrannu at hyn. Bydd cyhoeddiadau pellach yn dod maes o law ynghylch eu dull cyllido wrth iddynt gael darlun mwy eglur o sut mae derbynyddion grant yn cael eu heffeithio.

Datganiad llawn a diweddariadau

Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Mae CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn cydnabod y bydd y Coronfeirws (COVID-19) yn cael effaith fawr ar gymunedau ledled ardal y Gronfa. Hoffwn eich sicrhau chi y byddwn yn gwneud beth bynnag y gallwn i’ch cefnogi chi yn yr wythnosau i ddod. Mae pob cyfarfod ac apwyntiad yn cael ei wneud o bell dros y ffôn, drwy alwadau fideo a negeseuon e-bost.

Datganiad llawn

Chwaraeon Cymru

Mae tîm Chwaraeon Cymru yn gweithio o gartref bellach ac yn parhau i brosesu’r grantiau sydd yn eu system ar hyn o bryd.

‘Rydyn ni’n ymwybodol fod y rhan fwyaf o chwaraeon ar bob lefel yng Nghymru wedi gorfod dod i ben. Ond rydyn ni eisiau parhau i gynorthwyo clybiau a gwirfoddolwyr i fod yn barod pan ddaw’r golau gwyrdd i gynnal gweithgareddau eto yn y dyfodol.’

Mae’r prosesau grant yn debygol o newid wrth i Chwaraeon Cymru geisio gael grantiau wedi’u cymeradwyo mor gyflym â phosibl.

Dylid anfon cwestiynau neu ymholiadau at: grant.applications@sport.wales.

CGGC

Iechyd a llesiant pawb yw’r peth pwysicaf ar hyn o bryd, sy’n golygu os oes rhaid i chi leihau neu stopio gweithgareddau prosiect er mwyn diogelu staff a/neu’r rheini sy’n gweithio gyda chi, rydyn ni’n deall yn iawn. Rydyn ni’n parhau i gyflwyno sylwadau i gyllidwyr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a WEFO, y bydd angen iddynt ddangos dealltwriaeth a hyblygrwydd.

Mae’r ymatebion i’r sylwadau hyd hyn wedi bod yn gefnogol ac yn gwerthfawrogi’r amgylchiadau anodd rydyn ni’n eu hwynebu. Gofynnwn i chi ein diweddaru’n gyson ac yna, rhywbryd yn y dyfodol pan fydd pethau’n fwy eglur, gallwn weithio drwy’r effaith a’r newidiadau i’ch prosiect.

Sefydliad Waterloo

Mae tîm Sefydliad Waterloo yn gweithio o bell; mae’r llinellau cyfathrebu arferol yn parhau i fod ar agor. Bydd galwadau ffôn yn cael eu trosglwyddo i Reolwr Cyllid arferol y deiliad grant.

Byddan nhw’n gwneud taliadau grant ac yn adolygu ceisiadau yn unol â’u meini prawf cyllido yn ôl yr arfer. Maen nhw hefyd yn annog deiliaid grant cyfredol i gysylltu â’u Rheolwr Cyllid i weld sut gall ef neu hi eu helpu, er enghraifft, drwy symud dyddiadau taliadau neu adroddiadau, neu unrhyw beth arall.

Datganiad llawn

Sefydliad Steve Morgan

Gohirio ceisiadau arferol er mwyn canolbwyntio ar ddarparu eu Cronfa Argyfwng. Mae £12 miliwn yn cael ei ryddhau dros y 12 wythnos nesaf ar gyfer elusennau sy’n darparu gwasanaethau argyfwng ychwanegol ac ar gyfer y rheini sy’n colli incwm o weithgareddau codi arian er mwyn iddynt barhau i weithredu.