Wedi'i ddiweddaru 22nd Apr 2020

Fforwm Cyllidwyr Cymru yn ymuno â Datganiad Cyllidwyr Covid 19

Mae Fforwm Cyllidwyr Cymru wedi bod yn cyfarfod bob wythnos yn ystod argyfwng Covid-19 i hwyluso cydweithio a rhannu arferion gorau yn ystod y cyfnod hwn. Un o’r camau rydyn ni wedi cytuno arno yw y byddwn, fel grŵp, yn cofrestru ar y  Datganiad Covid 19 a gyhoeddwyd gan grŵp London Funders (sydd â mwy na 250 o lofnodion ar hyn o bryd). Gweler y datganiad isod, ynghyd â’r rhestr o Gyllidwyr Cymru sydd wedi ymrwymo iddo.

Rydym ni, ynghyd â grŵp ehangach o arianwyr, yn cydnabod fod yr achos Covid-19 yn ddigwyddiad eithriadol a fydd yn cael effaith ar grwpiau’r trydydd sector ac rydym eisiau cynnig cysur ein bod yn sefyll gyda’r sector yn ystod y cyfnod anodd yma.

Rydym eisiau bod mor ddefnyddiol a phosibl yn ystod yr wythnosau nesaf fel y gall grwpiau’r trydydd sector ganolbwyntio ar y gwaith hollbwysig o gefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf bregus.   Deallwn y gall fod amser pan na fydd staff a gwirfoddolwyr ar gael, pan fydd angen i wasanaethau gael eu darparu mewn ffordd wahanol i fuddiolwyr, neu pan fydd angen i systemau fod yn hyblyg i sicrhau fod anghenion yn cael eu cwrdd.

Os yw eich cymuned, gwasanaethau neu sefydliad yn cael ei effeithio arno gan covid-19, ac rydych yn derbyn arian grant* gennym ni, rydym yn ymrwymo i:

  • Addasu gweithgareddau – rydym yn cydnabod y bydd hi’n bosibl y byddwch yn cael anawsterau wrth gwrdd â rhai o’r deilliannau neu ganlyniadau a gytunwyd arnynt ar gyfer eich grant yn ystod y cyfnod yma, a hoffem allu parhau i gynnal ein taliadau grant ichi ar y lefelau y cytunwyd arnynt, yn ystod y cyfnod yma, felly cofiwch gysylltu â ni os byddwch yn cael eich effeithio yn y modd yma;
  • Trafod dyddiadaunid ydym am ychwanegu pwysau arnoch, felly os ydych yn meddwl y byddwch yn cael trafferth i gwrdd â dyddiad cau ar gyfer adrodd, cysylltwch â ni fel y gallwn gytuno ar amser mwy realistig i chi anfon y wybodaeth atom pan fydd hynny yn bosibl;
  • Hyblygrwydd ariannol – rydym yn deall y bydd efallai angen ichi ddefnyddio eich arian i helpu pan fydd staff yn sâl, i brynu offer, neu i gyflwyno gwasanaethau yn wahanol, a byddwn yn rhesymol os bydd angen i chi symud arian rhwng penawdau cyllid i sicrhau parhâd eich gwaith; a
  • Gwrando arnoch chi – rydym ni yma os ydych eisiau siarad gyda ni am y sefyllfa rydych yn ei hwynebu, ond byddwn yn aros i chi ein ffonio ni fel bod y sgwrs yn cymryd lle ar yr amser gorau i chi.

Rydym hefyd yn cydnabod y gall fod covid-19 wedi achosi mwy o wendid i’r system a all gael effaith ar eich ffynonellau incwm eraill, neu sydd angen ymateb llawer cyflymach gan ariannwyr.   Pan fydd gennym newyddion ar ariannu argyfwng, byddwn yn cyhoeddi hwn trwy linciau ar y dudalen we yma, fel fod pob rhaglen sydd ar gael ichi yn weladwy yn yr un lle.

* Nid yw hyn yn berthnasol i wasanaethau neu gontractau a gomisiynwyd lle bydd trafodaethau ar wahân rhwng comisiynwyr a sefydliadau darparu.

 

The Architectural Heritage Fund,

BBC Plant Mewn Angen,

Sefydliad Cymunedol Cymru,

Co-op Foundation,

Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy,

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru,

Garfield Weston Foundation,

Lloyds Bank Foundation, Lloeger a Cymru,

Interlink RCT,

The Moondance Foundation,

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol,

Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol,

Nesta,

Pears Foundation,

Tudor Trust,

The Waterloo Foundation

The Wolfson Foundation,

Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm Y Mileniwm,

Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl