Wedi'i ddiweddaru 29th Jun 2020

Fforwm Cyllidwyr Cymru yn edrych i’r dyfodol

Wrth i’r cyfyngiadau symud ddechrau llacio’n raddol yng Nghymru, hoffem ni, aelodau Fforwm Cyllidwyr Cymru, sicrhau mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru fod gwaith eisoes ar droed i edrych ar sut rydyn ni’n mynd i gynorthwyo mudiadau Cymru drwy gam nesaf y pandemig; y cam “adfer”.

Mae’n bwysig bod y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ynghylch cronfeydd adfer newydd a rhaglenni cymorth anariannol yn cael eu llywio gan anghenion cymunedau Cymru a’r mudiadau sy’n eu gwasanaethu. Gan hynny, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan gyllidwyr yng Nghymru i adolygu sut mae cronfeydd ymateb cyfredol wedi’u defnyddio ac i ymgynghori â’n deiliaid grant, aelodau (lle’n berthnasol) a’n rhanddeiliaid eraill ynghylch yr hyn sydd arnyn nhw eu hangen i’w cael nhw drwy’r misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Os byddwch chi’n gweld arolwg, digwyddiad neu fath arall o weithgarwch ymgysylltu’n cael ei gynnal gan gyllidwr neu gorff aelodaeth, anogir chi i gymryd rhan a sicrhau bod eich barn a’ch anghenion yn cael eu cynnwys yn ein cynlluniau.

Rydyn ni’n deall bod mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn wynebu pryder ac ansicrwydd ar hyn o bryd ynghylch eu dyfodol agos a’u dyfodol mwy hirdymor. Mae CGGC yn amcangyfrif y bydd y sector gwirfoddol yng Nghymru wedi colli oddeutu £230 miliwn mewn incwm yn ystod tri mis cyntaf y cyfyngiadau symud. Yn anffodus, ond yn anochel, bydd tirwedd newydd gan y sector ar ben draw’r pandemig hwn.

Er nad yw’n bosibl i gyllidwyr lenwi’r bwlch mewn incwm, mae Fforwm Cyllidwyr Cymru yn parhau i gydweithio i sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn cael ei wario’n dda ac yn cyrraedd cymaint â phosibl o fudiadau. Rydyn ni’n gobeithio lliniaru rhywfaint o’r pryder a’r ansicrwydd a deimlir gan y sector yng Nghymru gyda’r rhaglenni y byddwn ni’n eu cyhoeddi’n unigol yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod, ac rydyn ni’n ddiolchgar am eich amynedd i alluogi’r gwaith hwn i gael ei wneud.

Yn ogystal â chyllidwyr unigol yn hyrwyddo’u cronfeydd, bydd CGGC a Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn eu hyrwyddo mewn cylchlythyrau ac ar www.funding.cymru.