Digwyddiad Ar-lein AM DDIM - Cwrdd â'r Cyllidwr: Sefydliad Plunkett/Ymddiriedolaeth Benefact
Bydd BAVO yn cynnal y cyfle ar-lein hwn ar 12 Medi 5.30-6.30pm
Os ydych chi’n dod o gymuned sydd â syniad ar gyfer busnes cymunedol, neu o eglwys sy’n chwilio am ffyrdd newydd o weithio gyda’r gymuned ehangach a chynhyrchu incwm ychwanegol, ymunwch â ni i weld y gweminar rhad ac am ddim hwn i glywed mwy am y model cydleoli gan gynnwys enghreifftiau o Gymru a ledled y DU, a chael gwybodaeth am sut i gael cefnogaeth a grantiau i ddatblygu prosiectau fel y rhain.
Archebwch eich lle gan ddefnyddio’r ddolen isod: