Wedi'i ddiweddaru 16th Nov 2022

Datganiad gan Fforwm Cyllidwyr Cymru ar yr argyfwng costau byw

Rhwydwaith anffurfiol o gyllidwyr sy’n gweithio ac yn cyllido yng Nghymru yw Fforwm Cyllidwyr Cymru. Ein nod yw gwella ein harferion llunio grantiau yn barhaus drwy ddysgu o’n cymheiriaid a chael cyflwyniadau gan arbenigwyr yn y sector. Yma, rydyn ni’n rhannu rhai ymatebion i’r argyfwng costau byw o fewn ein cylchau gwaith fel cyllidwyr unigol.

Ym mis Ebrill 2020, gwnaeth aelodau o Fforwm Cyllidwyr Cymru ymuno â chyllidwyr ar hyd a lled y DU i lofnodi addewid i gydnabod yr effaith yr oedd Covid-19 yn ei chael ar ymgeiswyr a derbynyddion grantiau, ac i amlinellu beth fyddem ni’n ei wneud fel cyllidwyr i gynorthwyo’r elusennau a’r mudiadau gwirfoddol yn ystod yr argyfwng penodol hwnnw.

Gyda’r argyfwng costau byw yn annhebygol o ddod i ben yn y tymor byr, rydyn ni, yn anffodus, yn canfod ein hunain mewn sefyllfa arall, a allai fod yn waeth. Mewn llawer o achosion, nid yw mudiadau gwirfoddol wedi cael digon o amser i ailgodi’n ariannol ar ôl effaith Covid-19 a’r cyfyngiadau cysylltiedig ar fywyd bob dydd ac felly ar gynhyrchu incwm. Mae’r chwyddiant cynyddol a’r costau uwch o ran gwresogi, bwyd a theithio yn golygu nawr bod yr incwm y mae mudiadau yn ei ddenu yn werth llai. Fel cyllidwyr, rydyn ni’n deall sut mae’r pwysau hyn yn effeithio ar gymunedau, ac yn parhau i fynd ati’n unigol a chyda’n gilydd i geisio cael dealltwriaeth lawn o’r effaith y mae’r argyfwng presennol yn ei chael ar ymgeiswyr a derbynyddion ein grantiau.

Rydyn ni, fel y mudiadau rydyn ni’n eu cefnogi, yn amrywio o ran maint, capasiti ac adnoddau ariannol; byddwn ni’n cael ein heffeithio’n wahanol ac felly’n gwneud penderfyniadau ar y ffordd orau o wasanaethu’r sector ac ymgeiswyr a derbynyddion ein grantiau ar sail unigol. Felly, bydd sut rydyn ni’n ymateb i’r argyfwng hwn hefyd yn amrywio.

Er y bydd ymatebion unigol yn amrywio, mae rhai themâu cyffredin yn dod i’r amlwg. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cyfathrebu â deiliaid grantiau a thrafod sut gallwn ni eich cynorthwyo i wneud y defnydd gorau o’ch cyllid.
  • Bod yn hyblyg ac yn ymatebol. Mae hwn yn ddarlun cymhleth sy’n newid yn gyflym, ac mae’n bosibl y bydd angen camau gweithredu gwahanol ar adegau gwahanol.
  • Parhau i gynyddu ein dealltwriaeth o anghenion ymgeiswyr a derbynyddion ein grantiau er mwyn llywio penderfyniadau
  • Gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael i ni, a cheisio cydweithio lle y gallwn ni i greu mwy o effaith gyda’n gilydd
  • Myfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu o Covid-19 a mynd ati’n barhaus i asesu sut gallwn ni wneud ein cynlluniau grant mor hygyrch â phosibl
  • Parchu gwybodaeth ac arbenigedd y sector; mae lliaws o ffyrdd y gall deiliaid grantiau ac ymgeiswyr geisio cynorthwyo eu buddiolwyr a’u cymunedau
  • Hyrwyddo unrhyw gyllid ychwanegol y gallwn ni ei rannu yn eglur, naill ai fel cyllidwyr unigol neu wrth gydweithio

Os ydych chi’n poeni am sut i reoli eich cyllid presennol, cysylltwch â’r cyllidwr perthnasol. Mae’n siŵr y byddant eisiau gwybod, ac efallai y gallent helpu.

Os ydych chi’n chwilio am gyllid ychwanegol, ewch i www.cyllido.cymru i chwilio am y cynlluniau grant cywir i chi.