Wedi'i ddiweddaru 15th Aug 2022

Cyllido Cymru - gwell, cyflymach, cryfach

Rydyn ni’n gwneud ychydig o newidiadau i sut mae Cyllido Cymru yn gweithio er mwyn ei wneud yn haws defnyddio a rhoi mwy fyth o reolaeth i chi dros yr hyn rydych chi’n chwilio amdano. Yn y blog hwn, fe wnawn ni ddweud beth rydyn ni’n ei wneud a’r syniad y tu ôl iddo.

Gwnaethon ni gomisiynu ychydig o waith ymchwil yn ddiweddar ar blatfform Cyllido Cymru i ganfod sut mae pobl yn ei ddefnyddio, ei gryfderau, ac i weld pa welliannau neu newidiadau y gellir eu gwneud i’w gwneud hi’n haws i fudiadau ddod i hyd i wybodaeth am y cyllid sydd ei angen arnyn nhw. Yn dilyn hyn, gwnaethon ni dderbyn nifer o argymhellion, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda datblygwyr i roi’r rhain ar waith.

Dyma rai o’r swyddogaethau newydd rydyn ni’n gobeithio bydd yn gwella eich profiad o’r safle:

  • Swyddogaeth rybuddio sy’n eich hysbysu os oes cronfeydd newydd sy’n berthnasol i’ch chwiliadau wedi’u hychwanegu
  • Gallu arbed chwiliadau fel y gallwch chi gael gafael arnyn nhw bryd bynnag y dymunwch
  • Gallu lawrlwytho chwiliadau ar wahanol fformatau
  • Hysbysiadau i atgoffa cyllidwyr i ddiweddaru eu cofnodion ar wefan Cyllido Cymru, er mwyn sicrhau bod eu gwybodaeth yn gyfredol
  • Categorïau chwilio newydd a gwell er mwyn helpu i ddychwelyd canlyniadau chwilio mwy cywir

GWELLA EICH PROFIAD

Dylai hyn i gyd, ynghyd â llawer o welliannau eraill ‘o dan y bonet’ rydyn ni’n eu gwneud, olygu profiad gwell i chi, defnyddwyr Cyllido Cymru. Gwyddom ei bod hi’n bwysicach nag erioed nawr bod y sector gwirfoddol yn gallu dod o hyd i gyllid a chael gafael arno, ac mae’r holl newidiadau hyn wedi’u gwneud gydag hyn mewn golwg.

Fodd bynnag, wrth i ni wneud newidiadau i gategorïau cyllido, fe allech ddarganfod nad yw’r canlyniadau chwilio mor gyflawn ag arfer. Bydd staff TSSW o CGGC ac ar draws yr holl Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) yng Nghymru yn gweithio’n galed i ddiweddaru cronfeydd gyda’r tagiau categori cywir, a gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni wneud y newidiadau hyn, a ddylai gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Awst 2022 – fe fydd hi’n werth yr aros, rydyn ni’n addo!

DIM OND Y DECHREUAD YW HWN …

Nid yw’r ffaith ein bod wedi gwneud yr holl newidiadau hyn nawr yn golygu ein bod yn bwriadu stopio – rydyn ni’n parhau i groesawu adborth a bob amser yn awyddus i glywed beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio fel y gallwn ni ymdrechu’n ddi-baid i wneud Cyllido Cymru yn brofiad gwell i chi i gyd. Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau neu sylwadau, gallwch chi bob amser anfon e-bost atom ni yn fundingwales@wcva.cymru – rydyn ni’n gwerthfawrogi eich mewnbwn ac yn gobeithio y bydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r cyllid sydd ei angen arnoch chi.