Cyfle i sgwrsio gyda Rheolwr Ymgysylltu – sesiynau cyngor ariannu
Ydych chi’n rhan o sefydliad dielw neu gymunedol sy’n gweithio yng Nghymru? Ydych chi’n chwilio am arian ar gyfer prosiect newydd?
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rhoi grantiau rhwng £3,000 a £5miliwn ar gyfer prosiectau newydd sy’n rhoi cyfle i bobl ymwneud â threftadaeth. Mae hyn yn cynnwys treftadaeth gymunedol, diwylliannau pobl, atgofion a thraddodiadau, natur a bywyd gwyllt, adeiladau hanesyddol, amgueddfeydd a pharciau hanesyddol.
Archebwch slot 45 munud i sgwrsio trwy’ch syniad prosiect gyda Rheolwr Ymgysylltu.