Wedi'i ddiweddaru 9th May 2022

Cwrdd â'r cyllidwr - Ymddiriedolaeth Yapp

Dydd Iau 19 Mai 2022, 11am

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Yapp yn cynnig grantiau tuag at gostau cynnal (gan gynnwys cyflogau) i gynorthwyo elusennau bach i barhau i gyflawni eu gwaith cyfredol. Mae grantiau hyd at £9,000 (uchafswm o £3,000 y flwyddyn dros gyfnod o 3 blynedd) ar gael. Cymhwysedd allweddol:

  • Elusennau cofrestredig yn unig (mae Cwmnïau Buddiant Cymunedol wedi’u heithrio) gyda gwariant blynyddol sy’n is na £40mil
  • Costau cynnal yn unig. Nid ydy ceisiadau grant am brosiectau newydd, cynlluniau ehangu / datblygu a gwariant cyfalaf yn gymwys.
  • Mae’n rhaid bod yr ymgeiswyr  wedi bod yn gweithredu’n ffurfiol (gyda dogfen llywodraethu a phwyllgor rheoli) am o leiaf 3 blynedd
  • Bydd y grantiau ond yn ariannu gwaith sy’n canolbwyntio ar un o’r 5 maes blaenoriaeth: Yr Henoed, Pobl Ifanc, Anableddau, Lles Cymdeithasol neu Addysg.

I wybod mwy am y blaenoriaethau ariannu, yr eithriadau a’r manylion ynghylch sut i ymgeisio, ewch i www.yappcharitabletrust.org.uk. I drafod cymhwysedd cyn cyflwyno cais, cysylltwch gyda Joanne Anderson, Ysgrifenyddes yr Ymddiriedolaeth (0191 3893300 – info@yappcharitabletrust.org.uk)