Cwrdd â’r Cyllidwr: Plant mewn Angen
Cwrdd â’r Cyllidwr: Plant Mewn Angen Cynllun Awyr Fawr
Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023, 11am – 12pm (Ar-lein)
Fel rhan o’r gwaith i gefnogi plant a phobl ifanc mewn ardaloedd gwledig mae BBC Plant mewn Angen yn falch iawn o gyflwyno y Cynllun Awyr Fawr. Bydd y gronfa hon yn dyfarnu grantiau hyd at £5,000 i ariannu:
- Plant a phobl ifanc 8-13 oed
- Plant a phobl ifanc o ardaloedd o arwahanrwydd
- Gwaith i gefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl
Mae’n bleser gan CGGC groesawu James Bird, Rheolwr Effaith BBC Plant mewn Angen Cymru, mewn digwyddiad ar-lein, Cwrdd â’r Cyllidwr. Bydd James yn rhoi cyflwyniad ar Awyr Fawr ac yn cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r rhai fydd yn mynychu.
Am ddim i fynychu. Archebwch le ar eventbrite yma.