Cwrdd â’r Cyllidwr - Elusen Henry Smith
Mae AVOW yn cynnal digwyddiad Cwrdd â’r Cyllidwr ar 15 Mai 2023 am 10:30am.
Bydd yn ddigwyddiad rhithiol ledled Cymru.
Tom Bell, Rheolwr Grantiau – meysydd portffolio: Plant a phobl ifanc, cyfiawnder troseddol (pobl ifanc a dynion). Bydd Tom yn rhoi trosolwg o Elusen Henry Smith fel ariannwr, gan roi cyfle i ddysgu am eu prif raglenni grantiau – Gwella Bywydau a Chryfhau Cymunedau.
Mae Elusen Henry Smith yn darparu grantiau i fudiadau elusennol sy’n helpu pobl pan fo ffynonellau eraill o gefnogaeth wedi methu, yn amhriodol, neu ddim ar gael. Mae’r elusen yn cefnogi fudiadau sefydledig sy’n darparu gwasanaethau’n uniongyrchol i fuddiolwyr. Maent yn chwilio am wasanaethau sy’n gallu dangos cofnod o lwyddiant, ac yn dystiolaeth o effeithiolrwydd y gwaith.