Wedi'i ddiweddaru 14th Oct 2022

Cwrdd â'r Cyllidwr: Cadwch Gymru'n Daclus - Llefydd Lleol ar gyfer Natur

Ydych chi am greu gardd gymunedol fechan yn eich ardal leol?

Gallwch ddysgu rhagor trwy ymuno â sesiwn ar-lein BAVO gyda Cadwch Gymru’n Daclus ddydd Mercher 19 Hydref am 2pm. I ddarganfod mwy anfonwch e-bost at alisonmawby@bavo.org.uk am ddolen.

Mwy am y gronfa:

A oes ardal yn eich cymuned chi sydd angen sylw? Gwnewch gais am un o’n pecynnau gardd am ddim!

Ers 2020, mae dros 900 o fannau gwyrdd ledled y wlad wedi’u creu, eu hadfer a’u gwella. Bu grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint wedi cymryd rhan – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.

Bellach, gydag ond 70 o becynnau ar ôl a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais eleni’n prysur agosáu, mae amser yn rhedeg allan i gymunedau gymryd rhan. Dyma’ch cyfle i wrthdroi dirywiad byd natur a rhoi hwb pwysig i les eich cymuned leol ar yr un pryd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun 21 Tachwedd 2022.