Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU
Ar 3 Mawrth cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak AS, Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU (UK CRF) am flwyddyn.
Y bwriad yw y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i dreialu dulliau newydd o symud oddi wrth Gronfeydd Strwythurol yr UE, er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno Cronfa Ffyniant a Rennir y DU yn 2022/23.
Nod y Gronfa yw cefnogi pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf ledled y DU, gan greu cyfleoedd i dreialu dulliau newydd a syniadau arloesol ar lefel leol. Er mwyn meithrin meddwl arloesol a chynnig hyblygrwydd, gall prosiectau gyd-fynd ag un, neu gyflawni ar draws sawl un, o’r blaenoriaethau buddsoddi canlynol:
- Buddsoddi mewn sgiliau
- Buddsoddi ar gyfer busnesau lleol
- Buddsoddi mewn cymunedau a lle
- Cefnogi pobl i gael gwaith
Disgwylir i ddyfarniadau prosiectau gael eu cyhoeddi ddiwedd mis Gorffennaf a bydd angen i holl weithgarwch y prosiect ddod i ben erbyn diwedd mis Mawrth 2022. Mae’r gronfa’n gystadleuol ac mae gan bob awdurdod lleol uchafswm o £3mil y gallant wneud cais iddo.
Mae ceisiadau bellach ar agor yn –
Sir Benfro – dyddiad cau 7am 7 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1767
Sir Gaerfyrddin – dyddiad cau Hanner dydd 5 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1768
Conwy – dyddiad cau 5pm 14 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1769
Castell-nedd Port Talbot – dyddiad cau 5pm 14 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1772
Sir y Fflint – dyddiad cau 5pm 14 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1774
Pen-y-bont ar Ogwr – dyddiad cau 7am 24 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1785
Bro Morgannwg – dyddiad cau 10 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1784
Torfaen – dyddiad cau 5pm 7 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1783
Powys – dyddiad cau 5pm 17 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1782
Ynys Môn – dyddiad cau 4pm 30 Ebrill – https://cy.funding.cymru/funds/1781
Merthyr Tudful – dyddiad cau hanner nos 24 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1780
Ceredigion – dyddiad cau 9am 17 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1779
Caerdydd – dyddiad cau5pm 17 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1786
Caerffili – dyddiad cau 12pm 17 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1808
Sir Dinbych – dyddiad cau 5pm 31 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1813
Blaenau Gwent – dyddiad cau 5pm 20 Mai – https://funding.cymru/funds/1819
Casnewydd – dyddiad cau 21 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1821
Abertawe – dyddiad cau 5pm 21 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1823
Sir Fynwy – dyddiad cau 5pm 14 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1825
Gwynedd – dyddiad cau 12pm 28 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1803
Rhondda Cynon Taf – dyddiad cau 5pm 31 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1827
Wrecsam – dyddiad cau 12pm 28 Mai – https://cy.funding.cymru/funds/1831
Byddwch yn ymwybodol y gallai’r dyddiadau cau newid. Mae gan bob Awdurdod Lleol dîm sy’n cydlynu’r cyllid ond os hoffai pobl gael unrhyw gyngor cyffredinol gallant naill ai gysylltu â’r tîm 3 SET yn CGGC (3set@wcva.cymru) neu eu CGS lleol.
Bydd mwy o gronfeydd lleol yn cael ei ychwanegu at y dudalen hon pan fydd y wybodaeth ar gael.