Ai Cyllido Cymru yw’r teclyn cywir i mi chwilio am gyllid?
Mae Cyllido Cymru yn rhestru cyllidwyr sydd â hanes o gefnogi prosiectau yng Nghymru. Os yw’ch prosiect neu’ch mudiad wedi’i leoli rywle arall yn y Deyrnas Unedig yna rhowch gynnig ar Funding Central yn Lloegr, Funding Scotland yn yr Alban a GrantTracker yng Ngogledd Iwerddon.

Sut ydw i’n dechrau defnyddio Cyllido Cymru?
I ddechrau defnyddio Cyllido Cymru fe fydd angen i chi gofrestru. Cliciwch ar ‘Cofrestru’ a darparu ychydig o wybodaeth sylfaenol. Ar ôl cyflwyno’r wybodaeth yma fe fyddwch yn cael ebost dilysu, cliciwch ar y ddolen ac fe ddylech wedyn allu mewngofnodi i’r wefan.

Pa mor aml y diweddarir Cyllido Cymru?
Diweddarir cronfa ddata Cyllido Cymru bob wythnos gyda’r cyfleoedd cyllido diweddaraf yn ymddangos ar y dudalen lanio. Os ydych yn credu y dylai’r wefan gynnwys unrhyw gronfeydd sydd ddim arni ar hyn o bryd, rhowch wybod i ni.

Dwi’n cael trafferth cael at fy nghyfrif, beth allaf ei wneud?
Cysylltwch â ni drwy ebostio fundingwales@wcva.org.uk neu ffonio 0300 111 0124 ac fe fyddwn yn fwy na pharod i helpu.

Sut ydw i’n chwilio am gyllid?
Dyluniwyd peiriant chwilio’r wefan i fod yn hawdd ei ddefnyddio. Dylai’ch chwiliad yn y lle cyntaf gynnwys ‘diben y cyllid’, yr awdurdod lleol lle mae’ch mudiad wedi’i leoli/yn gweithredu ynddo a swm y cyllid rydych ei angen.

Mae opsiynau chwilio ychwanegol ar gael os hoffech ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

Unwaith y cewch ganlyniadau’ch chwiliad gallwch drefnu’ch canlyniadau yn ôl gwerth, dyddiad cau neu’r wyddor.

Sut ydw i’n ymgeisio am gyllid yr wyf wedi dod o hyd iddo ar Cyllido Cymru?
Fe fydd angen i chi fwrw golwg ar fanylion y broses ymgeisio ar wefan y cyllidwr neu gysylltu â nhw i gael y manylion.

O ble y gallaf gael rhagor o gymorth i ymgeisio am gyllid?
Mae cymorth ychwanegol ar gael gan WCVA neu’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.

Sut allaf ychwanegu cronfa ariannol at Cyllido Cymru?
Fe fyddem wrth ein boddau o glywed gennych! Croeso i chi ebostio fundingwales@wcva.org.uk ac fe drefnwn ni i’r cyfle ymddangos ar y wefan.

Dwi wedi gweld problem mewn cofnod cronfa ar y wefan, sut allaf roi gwybod i rywun?
Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu gwybodaeth gywir ond weithiau rydym yn methu pethau. Gyda’ch cymorth chi, gallwn wneud Cyllido Cymru y gorau y gall fod. Anfonwch y manylion atom drwy ebostio fundingwales@wcva.org.uk ac fe wnawn ni ddatrys y broblem.

O ble ydych chi’n cael gwybodaeth am grantiau?

Mae faint o wybodaeth sydd ar gael yn amrywio’n fawr o un grant i’r llall. Rydyn ni’n rhannu pa bynnag wybodaeth sydd ar gael i ni; mewn rhai achosion, yr unig beth ar gael bydd amcanion y grant neu’r gronfa, y swm sydd ar gael a chyfeiriad y cyfreithiwr i anfon y ceisiadau ato. Ar y llaw arall, mae’n bosibl y bydd gan gyllidwyr mwy o faint dudalennau o ganllawiau a gwybodaeth y byddwn ni’n cysylltu â nhw. Rydyn ni’n cael ein gwybodaeth o ffynonellau amrywiol:

  • Gwybodaeth y bydd cyllidwyr yn ei rhannu â ni’n uniongyrchol
  • Gwaith ymchwil y byddwn ni’n ei wneud, a nawr
  • Cyllidwyr sy’n rheoli eu proffiliau eu hunain ar Gyllido Cymru

Trwy gydol 2022, byddwn ni’n ceisio cael mwy a mwy o gyllidwyr i reoli eu proffiliau eu hunain a chadw’r wybodaeth am eu cyllid yn gyfredol ac yn gywir. Ni fydd hyn yn berthnasol i’r holl gyllidwyr ar Gyllido Cymru (mae mwy nag 800 arno ar hyn o bryd), gan nad oes gan rai ohonynt staff amser llawn.

Os ydych chi’n gyllidwr â diddordeb mewn rhestru eich cronfa/cyllid ar Gyllido Cymru, anfonwch e-bost atom yn fundingwales@wcva.cymru.