Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i safle funding.cymru (Cyllido Cymru) Cefnogi Trydydd Sector Cymru a reolir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Defnyddio’r wefan hon

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Rydym eisiau i gymaint â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, dylai hyn olygu y gallwch:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo i hyd at 300% heb i’r testun syrthio oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall, ond mae swm mawr o’r cynnwys (cronfeydd) yn cael eu cynhyrchu gan y defnyddiwr.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid oes gan rai lluniau destun amgen da
  • nid yw testun dolenni yn disgrifio diben y ddolen mewn rhai mannau
  • nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson
  • nid oes gan rai elfennau ddigon o gyferbyniad lliw

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes arnoch angen yr wybodaeth ar y wefan hon ar fformat gwahanol, cysylltwch ag

Er mwyn ein helpu ni i ddiwallu eich anghenion yn well, dywedwch wrthym ar ba fformat arall yr hoffech chi gael yr wybodaeth, a rhowch wybod i ni os ydych yn defnyddio unrhyw dechnoleg gynorthwyol.

Fe wnawn ni ystyried eich cais a dod yn ôl atoch o fewn 15 diwrnod gwaith.

Adrodd problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

  • Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os nad ydych yn credu ein bod yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: fundingwales@wcva.cymru

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn ymrwymedig i wneud y wefan hon yn hygyrch.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA (Saesneg yn unig), oherwydd y pwyntiau diffyg cydymffurfiaeth a nodir isod.

Cynnwys anhygyrch

Mae’r problemau canlynol wedi’u datrys lle’n bosibl, ond mae’n bosibl bod nifer bychan o dudalennau wedi’u heffeithio o hyd.

Meini prawf llwyddiant a fethwyd: WCAG 2..1 Maen brawf llwyddo (Wrth ddefnyddio lluniau, nodwch destun amgen byr (Alt text)).  Problem: Os nad oes testun amgen, ni all technolegau cynorthwyol adnabod y llun na chyfleu ei ddiben i’r defnyddiwr.

Meini prawf llwyddiant a fethwyd: WCAG 2.1 2.4.4 Maen brawf llwyddo (Diben dolen (mewn cyd-destun).
Problem: Nid yw testun dolen ynghyd â dolen a bennir gan raglen yn nodi diben y ddolen.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 12 Medi 2022.