Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru wedi creu Cyllido Cymru i’ch helpu i ddod o hyd i gyllid i’ch elusen, eich grŵp cymunedol neu’ch mudiad cymdeithasol.

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol a’r corff aelodaeth cenedlaethol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

 

Mae’r porth hwn yn darparu gwybodaeth i aelodau o WCVA a Chynghorau Gwirfoddol Sirol ynglŷn â chanoedd o gronfeydd sy’n cefnogi prosiectau yng Nghymru. Gallwch gael gwybod am aelodaeth drwy gysylltu â’r mudiad o fewn rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru sy’n eich cynrychioli chi.


Cofrestrwch neu fewngofnodwch i chwilio am gyfleoedd cyllido gan ddefnyddio’r chwilotwr. Mae modd chwilio yn ôl lleoliad, pwrpas, a’r swm sydd ei angen arnoch.

 

Ni ddarperir cyfleoedd am gyllid i unigolion na busnesau preifat. Gall busnesau preifat ac unigolion gysylltu â Busnes Cymru a Turn2Us am gymorth cyllido.

 

Ewch i’r dudalen Cysylltu â ni os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio’r wefan hon neu os ydych wedi gwneud cais llwyddiannus ac fe hoffech i ni rannu’ch stori.

Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y corff aelodaeth cenedlaethol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.